Rudolf I, brenin yr Almaen
Rudolf I, brenin yr Almaen | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mai 1218 Limburg Castle |
Bu farw | 15 Gorffennaf 1291 Speyer |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Brenin y Rhufeiniaid |
Tad | Albert Iv |
Mam | Hedwig |
Priod | Gertrude of Hohenberg, Isabella of Burgundy |
Plant | Matilda of Habsburg, Albrecht I, brenin yr Almaen, Catherine of Habsburg, Agnes of Habsburg, Clemence of Austria, Rudolf II, Duke of Austria, Judith of Habsburg, Hedwig of Habsburg, Hartmann von Habsburg, Albrecht von Löwenstein-Schenkenberg |
Llinach | Habsburg |
Brenin y Rhufeiniaid o 1273 hyd ei farwolaeth oedd Rudolf I neu Rwdolff I (Almaeneg: Rudolf von Habsburg; 1 Mai 1218 - 15 Gorffennaf 1291), sef teitl a roddwyd i reolwyr yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn dilyn ethol i'r swydd gan y dywysogion Teyrnas yr Almaen.
Roedd Rudolf yn fab i'r Cownt Albert IV o Habsburg a Hedwig, ferch Cownt Urlich o Kyburg a chafodd ei eni yng Nghastell Limburg ger Sasbach am Kaiserstuhl yn ardal Breisgau. Ar farwolaeth ei dad ym 1239, etifeddodd stadau mawr o eiddo'i dad o gwmpas Castell Habsburg yn ardal Aargau (y Swistir) ac yn Alsace hefyd. Ym 1245, fe briododd ei wraig gyntaf Gertrude, ferch Cownt Burkhard III o Hohenburg.
Roedd y dryswch yn yr Almaen yn ystod yr interregnum, yn dilyn cwymp llinach Hohenstaufen yn caniatau i Cownt Rudolf i gynyddu ei eiddo. Coronwyd ef yn frenin yn Eglwys Gadeiriol Aachen ar 24 Hydref 1273. Bu farw yn Speyer ym 1291.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Rhagflaenydd: Richard o Gernyw |
Brenin yr Almaen 1273–1291 |
Olynydd: Adolf o Nassau |